CWRDD Â'R RHEOLWYR
-
Helo, Bethan ydw i, a fi yw'r Uwch Reolwr sy'n gyfrifol am oruchwylio datblygiad cynllun cyflawni Seren ar gyfer dysgwyr ledled Cymru.
Rwyf wedi bod yn rhan o'r rhaglen ers ei sefydlu, ac mae wedi bod yn fraint ei gweld yn tyfu ac yn esblygu i fod yn rhaglen sy'n cefnogi dilyniant a dyheadau cymaint o ddysgwyr.
Drwy Seren, ein nod yw helpu dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau trosglwyddadwy, y galluoedd datrys problemau, a'r galluoedd meddwl beirniadol a fydd yn cefnogi eu llwyddiant yn y dyfodol. Yr un mor bwysig, rydym am i ddysgwyr deimlo'n hyderus yn eu galluoedd ac wedi'u grymuso wrth iddynt archwilio eu camau nesaf a chyfleoedd yn y dyfodol.
Rwyf bob amser yn gwerthfawrogi adborth ac yn croesawu sgyrsiau am sut y gallwn barhau i wella a chefnogi dysgwyr. Cysylltwch â ni os oes unrhyw beth y gallwn ni helpu ag ef neu os hoffech rannu eich meddyliau a'ch profiadau.
-
Helo, Carly dw i, Rheolwr Seren, ac rwy’n cefnogi dysgwyr yn Rhondda Cynon Taf a llawer o ysgolion yn Ne ddwyrain Cymru.
Fy rôl i yw helpu i wneud yn siŵr eich bod chi’n cael y gorau o’ch profiad gyda Seren, boed hynny drwy ymweliadau â’ch ysgol, digwyddiadau academaidd, cystadlaethau neu gyfleoedd i archwilio eich diddordebau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
Gallwch chi ddod ata i os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Seren neu os hoffech chi sgwrsio am unrhyw ddiddordebau academaidd neu lwybrau i’r dyfodol.
Fy hoff beth am Seren yw gweld dysgwyr yn rhoi cynnig ar rywbeth newydd, yn herio eu hunain ac yn darganfod pynciau neu gyfleoedd nad oedden nhw efallai wedi’u hystyried o’r blaen.
Un darn o gyngor rydw i'n ei rannu'n gyson yw i gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig. Hyd yn oed os nad ydych chi’n siŵr a yw rhywbeth i chi, rhowch gynnig arni! Chi byth yn gwybod beth allai eich ysbrydoli.
-
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
Ysgol Uwchradd Cantonian
Ysgol Uwchradd Cathays
Ysgol Uwchradd Fitzalan
Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi
Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd
Ysgol Uwchradd Y Fair Ddihalog
Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Ysgol Gyfun Gwynllyw
Coleg y Cymoedd
Ysgol Afon Wen
Ysgol Bro Taf
Ysgol Gyfun Aberpennar
Ysgol Gyfun Bryn Celynnog
Ysgol Gyfun Cwm Rhondda
Ysgol Gyfun Garth Olwg
Ysgol Gyfun Llanhari
Ysgol Gyfun Rhydywaun
Ysgol Gyfun Tonyrefail
Ysgol Gyfun Treorci
Ysgol Gyfun Y Pant
Ysgol Gymunedol Aberdâr
Ysgol Gymunedol Glyn Rhedynog
Ysgol Gymunedol Nantgwyn
Ysgol Uwchradd Gatholig Cardinal Newman
Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr
Ysgol Uwchradd Gymunedol Porth
Ysgol Uwchradd Llanilltud Fawr
Ysgol Uwchradd Sant Cyres
Ysgol Uwchradd Stanwell
Ysgol Gatholig Sant Richard Gwyn, Y Barri
Ysgol Uwchradd Pencoedtre
Ysgol Uwchradd Whitmore
-
Helo, Gareth ydw i, Rheolwr Seren sy'n gwasanaethu De-orllewin Cymru. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad fel athro a Phennaeth Blwyddyn, rwy'n deall y cyfleoedd, y pwysau a'r gofynion sy'n wynebu dysgwyr ac ysgolion.
Rwy'n ffodus yn fy rôl i weithio'n agos gydag ysgolion a cholegau i gysylltu dysgwyr â chyfleoedd cyffrous sy'n codi dyheadau ac yn ehangu gorwelion. Fel dysgwyr, gallwch ddisgwyl cefnogaeth, anogaeth ac arweiniad agored a gonest. Ar hyd y ffordd, byddaf yn tynnu sylw at ddigon o gyfleoedd Seren i archwilio eich diddordebau, herio'ch hunain, a dod o hyd i lwybr uchelgeisiol sy'n iawn i chi—boed hynny'n dilyn llwybr traddodiadol neu'n mynd â chi i gyfeiriad gwahanol.
Fy hoff beth am Seren yw gweld dysgwyr yn tyfu mewn hyder, gwylio eich teithiau, a dathlu eich llwyddiannau. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chi.
-
Coleg Sir Gâr
Ysgol Bro Dinefwr
Ysgol Bryngwyn
Ysgol Coedcae
Ysgol Dyffryn Aman
Ysgol Dyffryn Taf
Ysgol Gatholig Sant John Lloyd
Ysgol Glan-y-Môr, Porth Tywyn
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Ysgol Gyfun y Strade
Ysgol Maes y Gwendraeth
Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth
Ysgol Aberaeron
Ysgol Aberteifi
Ysgol Bro Pedr
Ysgol Bro Teifi
Ysgol Henry Richard
Ysgol Penweddig
Coleg Sir Benfro
Ysgol Bro Preseli
Ysgol Caer Elen
Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd
Ysgol Gyfun Ystalyfera
Ysgol Gymraeg Bro Dur
Ysgol Calon Cymru – Campws Llandrindod
Ysgol Calon Cymru – Campws Llanfair ym Muallt
Ysgol Gyfun Gŵyr
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
Ysgol Gyfun Pontarddulais
Ysgol Gyfun Pentrehafod
Ysgol Gyfun Penyrheol
Ysgol Gyfun Treforys
Ysgol Olchfa
-
Helo, Guto Dafydd ydw i, ac rwy’n Rheolwr Seren gyda chefndir ym maes addysgu a chyngor gyrfaoedd.
Rwy’n cefnogi dysgwyr ledled Gwynedd ac Ynys Môn, yn ogystal ag ysgolion a cholegau Cymraeg a dwyieithog ledled Conwy, Sir Ddinbych, Wrecsam, Sir y Fflint a gogledd Powys. Fy rôl yw helpu dysgwyr i gael mynediad at y cymorth cywir ar yr adeg gywir, er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau gwybodus a hyderus am addysg uwch a’u llwybrau gyrfa yn y dyfodol.
Un o’r pethau rwy’n ei hoffi fwyaf am Seren yw’r arweiniad personol sydd ar gael drwy’r rhaglen fentora, yn ogystal â’r cyfleoedd gwych a’r profiadau gwerthfawr a gynigir drwy’r rhaglen breswyl. Rwy’n mwynhau gweld dysgwyr yn magu hyder, yn darganfod posibiliadau newydd ac yn cyflawni amcanion nad oeddent efallai erioed wedi credu oedd yn bosibl.
Mae fy nghyngor yn syml: manteisiwch ar bob tamaid o gymorth sydd ar gael i chi. Pam rhedeg drwy wal pan fo rhywun eisoes yn dal drws ar agor i chi? -
Ysgol Dyffryn Conwy
Ysgol Y Creuddyn
Ysgol Brynhyfryd
Ysgol Uwchradd Glan Clwyd
Ysgol Maes Garmon
Ysgol Morgan Llwyd
Grŵp Llandrillo Menai - Campws Dolgellau
Grŵp Llandrillo Menai - Campws Pwllheli
Ysgol Ardudwy
Ysgol Botwnnog
Ysgol Bro Idris
Ysgol Brynrefail
Ysgol Dyffryn Nantlle
Ysgol Dyffryn Ogwen
Ysgol Eifionydd
Ysgol Friars
Ysgol Glan-y-Môr, Pwllheli
Ysgol Godre'r Berwyn
Ysgol Syr Hugh Owen
Ysgol Tryfan
Ysgol Uwchradd Tywyn
Ysgol Y Moelwyn
Grŵp Llandrillo Menai - Campws Llangefni
Ysgol David Hughes
Ysgol Gyfun Llangefni
Ysgol Syr Thomas Jones
Ysgol Uwchradd Bodedern
Ysgol Uwchradd Caergybi
Ysgol Bro Caereinion
Ysgol Bro Hyddgen
Ysgol Llanfyllin
-
Helo, fy enw i yw Jade Maurice. Fi yw'r Rheolwr Seren ar gyfer yr ysgolion cyfrwng Saesneg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr a rhannau o Abertawe.
Fe welwch chi fi yn eich ysgol, ar-lein ac mewn digwyddiadau cenedlaethol, yn gweithio gyda fy nhîm i ddarparu ystod eang o gyfleoedd sy'n eich cefnogi ar eich taith academaidd.
Fy hoff ran o fy swydd yw gweithio gyda dysgwyr ym mhob cam gwahanol o'r daith hon, felly mae croeso i chi gysylltu â mi gydag unrhyw gwestiynau, pryderon neu geisiadau am gyngor.
Fy nghyngor cyntaf: Dychmygwch fod y byd gwybodaeth yn dapestri - daliwch ati i dynnu ar edafedd nes i chi ddod o hyd i un rydych chi am ei ddatod ac yna daliwch ati i'w ddatod. Archwiliwch yr hyn sydd wirioneddol o ddiddordeb i chi (boed yn bwnc, yn sgil neu'n ffaith ddifyr) a thynnwch ar gynifer o ddarnau o edafedd ag y gallwch.
Ond hefyd, byddwch yn garedig â chi'ch hun ac yfwch lawer o ddŵr.
-
Coleg Cymunedol Y Dderwen
Coleg Penybont - Campws Pencoed
Ysgol Brynteg
Ysgol Gyfun Bryntirion
Ysgol Gyfun Cynffig
Ysgol Gyfun Maesteg
Ysgol Gyfun Pencoed
Ysgol Gyfun Porthcawl
Ysgol Gatholig yr Archesgob McGrath
Coleg Merthyr Tudful
Ysgol Gatholig y Bendigaid Carlo Acutis
Ysgol Uwchradd Afon Taf
Ysgol Uwchradd Cyfarthfa
Ysgol Uwchradd Pen-y-dre
Grŵp NPTC - Campws Castell-nedd
Ysgol Bae Baglan
Ysgol Cwm Brombil
Ysgol Gatholig a Chanolfan Chweched Dosbarth Sant Joseff
Ysgol Gyfun Cefn Saeson
Ysgol Gyfun Dwr-Y-Felin
Ysgol Gymunedol Cwmtawe
Ysgol Gymunedol Llangatwg
Coleg Gŵyr Abertawe - Campws Gorseinon
Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan
Ysgol Gyfun Gellifedw
Ysgol Bishopston
Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed
Ysgol Dylan Thomas
Ysgol Tregwyr
Ysgol yr Esgob Gore
-
F’enw i yw Jude, Rheolwr Seren ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Rwy’n gweithio gyda’ch athrawon a thîm ehangach i gynnal gweithdai yn yr ysgol a chefnogi ein rhaglen ehangach wych. Gallwch ddisgwyl cwrdd â fi yn yr ysgol neu’r coleg, ar deithiau ac yn ystod digwyddiadau ar-lein.
Cadwch lygad am fy negeseuon ar Gofod ac yn eich mewnflwch e-bost, er mwyn sicrhau nad ydych yn colli allan ar unrhyw beth!
Mae croeso mawr i chi gysylltu â fi ar-lein neu wyneb yn wyneb os oes gennych gwestiynau neu bryderon sy’n ymwneud â Seren, neu os ydych yn chwilio am gyngor am eich taith addysgol neu yrfaol.
Fy hoff beth am Seren yw helpu dysgwyr i gynyddu eu hyder a chodi eu dyheadau, ac rwy’n edrych ymlaen at eich helpu i benderfynu pa gyfleoedd sy’n addas i chi. Fy mhrif ddarn o gyngor i unrhyw ddysgwr Seren yw gosod nodau bwriadus, mesuradwy a hylaw - anelwch yn uchel, a byddwch yn garedig â’ch hun ar hyd y ffordd!
-
Coleg Cambria Chweched Glannau Dyfrdwy
Coleg Cambria Chweched Ial
Grŵp Llandrillo Menai - Campws Llandrillo-yn-Rhos
Grŵp Llandrillo Menai - Campws y Rhyl
Ysgol Aberconwy
Ysgol Alun
Ysgol Bryn Alyn
Ysgol Bryn Elian
Ysgol Clywedog
Ysgol Dinas Brân
Ysgol Eirias
Ysgol Emrys Ap Iwan
Ysgol Gatholig Crist y Gair
Ysgol John Bright
Ysgol Maelor
Ysgol Uwchradd Rhiwabon
Ysgol Santes Ffraid
Ysgol Treffynnon
Ysgol Uwchradd Argoed
Ysgol Uwchradd Castell Alun
Ysgol Uwchradd Cei Connah
Ysgol Uwchradd Darland
Ysgol Uwchradd Dewi Sant
Ysgol Uwchradd Dinbych
Ysgol Uwchradd Elfed
Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff
Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn, Y Fflint
Ysgol Uwchradd Hawarden
Ysgol Uwchradd Prestatyn
Ysgol Uwchradd Rhosnesni
Ysgol Uwchradd y Fflint
Ysgol Uwchradd y Rhyl
Ysgol y Grango
-
Helo pawb, Nia Oatley ydw i! Fi yw Rheolwr Seren ar gyfer Dwyrain Caerdydd, Casnewydd, Sir Fynwy, Bro Morgannwg, a Blaenau Gwent.
Fy nod i yw un syml: gwneud yn siŵr eich bod chi'n cael y cyfleoedd gorau un ar gyfer eich dyfodol, a'ch tywys chi trwy bob cam o'ch profiad Seren.
Os gwelwch chi fi o gwmpas, bydd e mwyaf tebygol mewn un o'n gweithdai wyneb yn wyneb neu ar un o'n preswyliadau wrth ymweld â phrifysgolion o'r radd flaenaf yng Nghymru a ledled y DU. Nhw yw fy ffefrynnau o bell ffordd oherwydd mod i'n cael cwrdd â chymaint o ddysgwyr gwych ac uchelgeisiol yn bersonol!
Rwy'n aml yn meddwl am Wild Geese gan Mary Oliver wrth weithio gyda myfyrwyr. Felly, os gallwn eich gadael gydag un syniad, dyna yw cofio eich dynoliaeth a bod yn ysgafn arnoch chi'ch hun.
Waeth beth yw'ch cam nesaf, does dim rhaid i chi gael pob un peth yn eich bywyd wedi'i gynllunio'n berffaith ar hyn o bryd. Rhowch le i chi'ch hun i ddysgu, tyfu, ac archwilio—a phan fydd angen help arnoch chi i ddod o hyd i'ch ffordd, rwy yma i chi!
-
Coleg Caerdydd a'r Fro - Campws Caerdydd
Coleg Dewi Sant
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
Ysgol Gyfun Cymraeg Plasmawr
Ysgol Gyfun Radyr
Ysgol Uwchradd Caerdydd
Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Illtud
Ysgol Uwchradd Llanisien
Ysgol Uwchradd Willows
Ysgol Uwchradd y Dwyrain
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Ysgol Uwchradd Eglwys yng Nghymru Sant Teilo
Ysgol Ddysgu Gymunedol Abertyleri
Ysgol Caldicot
Ysgol Gyfun Cas-gwent
Ysgol Gyfun Mynwy
Ysgol Gyfun y Brenin Harri VIII
Ysgol Bassaleg
Ysgol Gyfun Caerllion
Ysgol John Frost
Ysgol Sant Julian
Ysgol Uwchradd Casnewydd
Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Joseff
Ysgol Uwchradd Llanwern
Ysgol Uwchradd Lliswerry
Ysgol Abersychan
Ysgol Croesyceiliog
Ysgol Gyfun Gorllewin Mynwy
Ysgol Uwchradd Cwmbrân
Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Alban
Coleg Caerdydd a'r Fro - Campws y Barri
Ysgol Bro Morganwg
Ysgol Uwchradd y Bont-Faen
-
Richard ydw i, ac rwy'n gweithio gyda dysgwyr Seren ledled Cymru o Geredigion i Gaerffili, ac o Sir Benfro i Bowys.
Rhan fawr o fy swydd yw helpu dysgwyr i ystyried beth sy'n dod nesaf, gwneud synnwyr o'r dewisiadau o'u blaenau, a theimlo'n hyderus ynghylch y camau maen nhw am eu cymryd.
Mae'r ffordd y mae dysgwyr Seren yn gwthio eu hunain, yn gofyn cwestiynau, ac yn croesawu'r hyn sy'n bosibl ar gyfer eu dyfodol wastad yn cael argraff fawr arnaf. Pe bai gen i un darn o gyngor, dyma fyddai'r cyngor: nid oes nenfwd i'ch uchelgais na'ch potensial - peidiwch ag ofni anelu'n uchel .
A chofiwch, mae cyfathrebu yn allweddol i fagu pob perthynas mewn bywyd – gwneud ffrindiau, ymgolli ym mywyd prifysgol, a pha bynnag lwybr gyrfa rydych chi'n penderfynu ei ddilyn.
-
Coleg Gwent - Campws Crosskeys
Ysgol Gyfun Sant Cennydd
Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga
Ysgol Gyfun Heolddu
Ysgol Gyfun Sant Martin
Ysgol Gyfun Y Coed Duon
Ysgol Idris Davies
Ysgol Lewis
Ysgol Trecelyn
Ysgol Uwchradd Bedwas
Ysgol Uwchradd Islwyn
Ysgol Gyfun Emlyn
Coleg Ceredigion
Ysgol Penglais
Ysgol Bro Gwaun
Ysgol Greenhill
Ysgol Aberdaugleddau
Ysgol Harri Tudur
Ysgol Penrhyn Dewi
Coleg Gwent - Campws Glyn Ebwy
Ysgol Gymuned Ddysgu Ebwy Fawr
Ysgol Gyfun Tredegar
Ysgol Sefydledig Brynmawr
Coleg Gwent - Campws Torfaen
Ysgol Maes-y-Dderwen
Ysgol Uwchradd Aberhonddu
Ysgol Uwchradd Crughywel
Ysgol Uwchradd Gwernyfed
Ysgol Uwchradd Llanidloes
Ysgol Uwchradd Y Drenewydd - Campws John Beddoes
Ysgol Uwchradd Y Drenewydd - Campws Y Drenewydd
Ysgol Uwchradd y Trallwng